Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Meithrin Cydnerthedd:  Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau

 

3 Mai 2018

 

 

Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn, hynny i raddau helaeth am ei fod yn cydnabod yr heriau ariannol anodd sy'n wynebu sector y celfyddydau yn sgil y pwysau ar gyllidebau llywodraethau a'r crebachu diweddar ar incwm y Loteri Cenedlaethol.

 

Mae'r adroddiad yn cydnabod hefyd bod yn rhaid i'r sector, er mwyn wynebu'r heriau hyn, fynd ar ofyn amrywiaeth o ffynonellau eraill am gymorth ariannol a chynyddu'r incwm masnachol y mae'r sector ei hun yn ei greu.

 

Yn ogystal â'r argymhellion ar gynyddu rhoddion, y cymorth a roddir gan fusnesau a mathau eraill o arian a godir, rwy'n croesawu hefyd bwyslais y Pwyllgor ar waith rhyngwladol a sut y gellid helpu'r sectorau celfyddydol a chreadigol i ddatblygu marchnadoedd newydd dramor all ddod â buddiannau economaidd iddynt.  Mae hynny'n gyson â phwyslais 'Ffyniant i Bawb' ar sicrhau bod Cymru:

'yn parhau i droi ei golygon tuag allan a’i bod yn parhau i chwarae rhan lawn ar y llwyfan Ewropeaidd a'r llwyfan byd-eang, gan feithrin cysylltiadau newydd ym maes masnach a buddsoddi, a hyrwyddo’r agweddau gorau ar ein cenedl ledled y byd'.

 

Mae ymatebion manwl Llywodraeth Cymru i argymhellion yr adroddiad yn cael eu nodi isod:

 

Argymhelliad 1

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i roi cefnogaeth ariannol, boed hynny drwy Gelfyddydau a Busnes Cymru neu ffynhonnell arall, i hyrwyddo a datblygu gweithio mewn partneriaeth rhwng busnesau a’r celfyddydau i helpu i uchafu’r gefnogaeth ariannol ar gyfer y celfyddydau gan fusnes. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried hefyd sut y gellid rhoi sylw i’r anawsterau penodol a wynebir gan y sector celfyddydau yng Nghymru o ran denu cyllid gan fusnesau, a ph’un a fydd angen buddsoddi cyhoeddus ychwanegol yn y maes hwn er mwyn gyrru’r gwaith yn ei flaen 

 

Ymateb:  Derbyn. Mae Llywodraeth Cymru'n sianelu'r rhan fwyaf o'i fuddsoddiad yn y celfyddydau trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn fy llythyr cylch gwaith blynyddol, rwy'n pennu'r prif flaenoriaethau y dylai'r Cyngor eu hystyried wrth rannu'r arian. Ar gyfer y flwyddyn bresennol, mae'r blaenoriaethau hynny'n cynnwys yr angen i Gyngor y Celfyddydau (i) 'barhau i ddatblygu gwasanaethau cynghori penodol, i helpu ei gleientiaid i wella'u sgiliau busnes a marchnata a (ii) 'parhau i weithio i gael mwy o arian o ffynonellau allanol er mwyn lleihau dibyniaeth y sector ar gymhorthdal cyhoeddus'.

 

Drwy hynny, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian i hyrwyddo cydweithio rhwng busnesau a'r celfyddydau, a chymorth ariannol gan fusnesau i'r celfyddydau, yn cael eu darparu. Mae peth o'r cymorth hwnnw ar hyn o bryd yn cael ei ddarparu ar ran Cyngor y Celfyddydau gan Gelfyddydau a Busnes Cymru o dan becyn dwy flynedd, a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019 (mae elfennau eraill yn cynnwys rhaglen 'Gwytnwch' CCC). Yn y misoedd i ddod, bydd Cyngor y Celfyddydau'n adolygu'r gwasanaethau cymorth y bydd angen iddo eu darparu a ph'un a fyddai'n well eu prynu neu barhau i'w darparu trwy gymorth grant. Gwn y bydd Celfyddydau a Busnes Cymru yn cyflwyno cais manwl i esbonio pam ei fod mewn sefyllfa dda i barhau i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

Er mai materion i Gyngor y Celfyddydau benderfynu arnyn nhw yw'r fanyleb a'r mecanwaith darparu, byddaf yn pwyso arno i barhau i neilltuo adnoddau ar gyfer y gweithgarwch hwn, gan y bydd y pwysau ar arian cyhoeddus yn debygol o barhau i'r dyfodol rhagweladwy.  Byddaf yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau esbonio erbyn 1 Hydref eleni fan bellaf, sut y bydd am ddarparu'r gwasanaeth hwn o Ebrill 2018 ymlaen.

 

Byddaf yn disgwyl i'r Cyngor sicrhau bod yr opsiynau sydd ar gael yn cael eu hastudio'n briodol a bod cael gwerth ei arian yn ystyriaeth allweddol. Byddaf yn arbennig o awyddus i weld opsiynau ar gyfer estyn mentrau cyfredol yn hytrach na dilyn trywyddau traddodiadol eto.

 

 

Argymhelliad 2

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhagor o fentrau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol, gan gynnwys gwobr Dydd Gŵyl Dewi i gydnabod y rhai sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i gefnogi’r celfyddydau.

 

Ymateb:  Derbyn mewn egwyddor. Rwy'n cefnogi'r nod o godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol. Fodd bynnag, mae gennym eisoes Wobr Diwylliant Dewi Sant. Gallai Gweinidogion ei chael hi'n anodd cyfiawnhau gwobr newydd benodol ar gyfer y Celfyddydau pan fo cymaint o achosion da eraill y gallem annog pobl i'w cefnogi. Yn fy mhortffolio i er enghraifft, byddwn i'n awyddus hefyd i annog rhoi mwy i chwaraeon ieuenctid a phobl anabl. Yn yr un modd, i Weinidogion eraill, ceir achosion fel atal digartrefedd, gwarchod yr amgylchedd a newid agweddau at salwch meddwl.

 

Yn ysbryd yr argymhelliad hwn, rwyf am holi Celfyddydau a Busnes Cymru (C&BC) sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi a gwella Gwobr Flynyddol* C&BC am roddion elusennol i'r celfyddydau. Mae'r Gwobrau hyn yn denu pobl flaenllaw o bob cwr o Gymru a thu hwnt.  Mae gwerth llawer o'r bobl hyn yn fawr.
 (* Gwobr Robert Maskrey am Ddyngarwch Celfyddydau)

 

Goblygiadau Ariannol: Dim. Daw unrhyw gostau ychwanegol o gyllidebau rhaglenni presennol.

 

 

Argymhelliad 3

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i godi ymwybyddiaeth ynghylch y sefydliadau a’r prosiectau celfyddydol rhagorol a leolir yng Nghymru, a buddsoddiad ynddynt, gan sefydliadau ac ymddiriedolaethau o’r DU.

 

Ymateb:  Derbyn. Rwy'n cytuno bod yr angen i fynd i'r afael â'r broblem hon yn parhau a bydd Llywodraeth Cymru yn delio â hi mewn sawl ffordd.

 

Yn gyntaf, byddaf yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau a Celfyddydau a Busnes Cymru weithio gyda'i gilydd i drefnu rhaglen o ymweliadau a seminarau rhanbarthol ar gyfer Ymddiriedolaethau a Sefydliadau Prydeinig, er mwyn iddynt gael gweld ystod ac ansawdd y gwaith y mae sector y celfyddydau yn ei wneud yn lleol, a dod i ddeall yn well yr heriau y mae'n eu hwynebu.

 

Yn ail, byddaf yn ysgrifennu at Ymddiriedolaethau a Sefydliadau  Prydeinig blaenllaw i ofyn iddynt gymryd rhan yn y rhaglen hon, ac i ofyn iddynt am eu cefnogaeth i roi'r argymhelliad hwn ac argymhelliad 4 ar waith.

 

Yn drydydd, byddaf yn gwahodd sefydliadau a enwir yn yr adroddiad, fel National Theatre Wales ac WCVA, sydd â'r arbenigedd i ddatblygu ceisiadau llwyddiannus i Ymddiriedolaethau a Sefydliadau, i rannu'u harbenigedd a'u cyngor â phob rhan o sector y celfyddydau.

 

Yn olaf, rwy'n sylwi ar awgrym y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallai weithio gyda Sefydliad Cymunedol yng Nghymru (CFiW) o gofio'i arbenigedd ym maes elusengarwch ac o reoli cronfa waddol. O gofio hynny, byddaf yn cwrdd â'r Sefydliad i ystyried sut y gallai helpu sector y celfyddydau yn hyn o beth.  

 

Goblygiadau Ariannol: Dim. Daw unrhyw gostau ychwanegol o gyllidebau rhaglenni presennol.

 

 

Argymhelliad 4

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai ymddiriedolaethau a sefydliadau a leolir yn y DU fynd i’r afael â’r cydbwysedd cyllid yn y DU fel mater o frys, lle mae swm annheg ac anghyfartal o gyllid yn cael ei ddyrannu i sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr.

 

Ymateb:  Argymhelliad yw hwn ar gyfer Ymddiriedolaethau a Sefydliadau Prydeinig, ond byddaf yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau gadw golwg ar faint o arian y mae'r celfyddydau yn llwyddo i'w ddenu oddi wrth Ymddiriedolaethau a Sefydliadau elusennol, ac i roi gwybodaeth gyson imi amdano.  

 

 

 

 

 

Argymhelliad 5

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil er mwyn nodi a manteisio ar farchnadoedd rhyngwladol sydd â photensial ar gyfer tyfu sefydliadau celfyddydol Cymru.

 

Ymateb:  Derbyn yr egwyddor.  Rwy'n cytuno bod angen helpu'r sector diwylliant i gynyddu'i farchnadoedd rhyngwladol â chynllun sy'n seiliedig ar ffeithiau. Fel y dywedaf yn fy hymateb i argymhelliad 7, byddaf yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau weithio â'm swyddogion, fy nghydweithwyr ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig ac eraill, i baratoi cynllun ar y cyd i ystyried sut i helpu'r sector i gael y gorau o farchnadoedd rhyngwladol. Bydd y gwaith hwn yn rhannol yn golygu dewis y gwledydd a'r is-sectorau sy'n cynnig y cyfleoedd twf gorau. Tra bo cyllidebau'n dynn, byddaf yn barod i ystyried pob cynnig ymchwil, yn unol â'r gofyn.


Goblygiadau Ariannol:
 Dim. Daw unrhyw gostau ychwanegol o gyllidebau rhaglenni presennol.

 

 

Argymhelliad 6

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod elfen ddiwylliannol yn rhan o bob taith fasnach oni bai bod rhesymau amlwg dros beidio â gwneud hynny.


Derbyn.
Mae Llywodraeth Cymru'n cytuno y gall elfen ddiwylliannol ddod â manteision i daith fasnach, fel cynyddu'r cyhoeddusrwydd iddi yn y farchnad.  Mae cyrff diwylliannol ac artistiaid unigol sydd am fusnes tramor, yn cael ymuno â theithiau masnach fel cwmnïau mewn unrhyw sector eraill, ac mae nifer cynyddol yn gwneud hynny.
 

Mae teithiau masnach ac arddangosfeydd mewn gwledydd tramor yn hanfodol i helpu busnesau yng Nghymru i gynyddu'u hallforion. Mae ein rhaglen flynyddol yn cynnwys gweithgareddau sectorol ac amlsector, gan adlewyrchu'r galw ymhlith cwmnïau o Gymru a'r marchnadoedd a'r sectorau y rhoddir blaenoriaeth iddynt. Un enghraifft oedd y daith fasnach i Shanghai a Hong Kong ym mis Mawrth 2018 a gafodd ei hamseru i gyd-fynd â pherfformiad oedd wedi'i drefnu gan Opera Cenedlaethol Cymru.  Mae hyn yn dangos sut y gall trefnu taith fasnach i gyd-fynd â pherfformiadau diwylliannol mewn marchnad dramor ychwanegu at werth taith fasnach.

Fodd bynnag, ni fydd wastad yn briodol cynnwys elfen ddiwylliannol mewn taith fasnach na chynnwys digwyddiad diwylliannol yn yr amserlen. Nid yw gweithgareddau diwylliannol yn cael eu cynnal bob tro ar yr adegau mwyaf addas i gwmnïau allu cael y manteision economaidd mwyaf ohonynt.

 

Lle bo hynny'n briodol, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys elfen ddiwylliannol os gwelir y daw manteision economaidd i Gymru ac i allforwyr Cymru. Yn y dyfodol, byddwn yn ymgynghori â'n cyrff diwylliannol a noddir, trwy gyfarfod cynllunio blynyddol, ar ymarferoldeb a manteision cynnwys elfen ddiwylliannol yn y teithiau masnach yn ein rhaglen flynyddol. Byddwn yn ychwanegu teithiau masnach newydd at y rhaglen o dro i dro.

Goblygiadau Ariannol:  Dim ar hyn o bryd. Rhagwelir yr ysgwyddir costau ychwanegol yn 2018/19 gan gyllidebau rhaglenni presennol.

 

 

Argymhelliad 7

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried gweithredu strategaeth glir i gynorthwyo sector celfyddydau Cymru i ddatblygu marchnadoedd rhyngwladol.

 

Derbyn yr egwyddor: Mae 'Ffyniant i Bawb' yn disgrifio amcanion strategol y llywodraeth, felly ni welaf fod angen strategaeth ar wahân ar Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. Mae'r strategaeth genedlaethol yn ein hymrwymo i 'hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd' trwy sicrhau ei bod yn 'parhau i droi ei golygon tuag allan a’i bod yn parhau i chwarae rhan lawn ar y llwyfan Ewropeaidd a'r llwyfan byd-eang, gan feithrin cysylltiadau newydd ym maes masnach a buddsoddi, a hyrwyddo’r agweddau gorau ar ein cenedl ledled y byd'.  Yn ogystal, mae Cynllun Gweithredu Economaidd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gwneud yn glir y byddwn yn hyrwyddo Cymru trwy ddefnyddio'r hyn sydd gennym i'w gynnig yn ddiwylliannol i hyrwyddo buddiannau economaidd a masnachol Cymru dramor ac i'n helpu i feithrin ein delwedd.

 

Fodd bynnag, fel y dywedais yn argymhelliad 5, er mwyn i'r sector diwylliannol allu cyfrannu at ein dyheadau rhyngwladol, rhaid mynd ati mewn ffordd fwy bwriadol a chydgysylltiedig. Byddaf yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau weithio gyda'm swyddogion ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a chyda chyrff ymbarel i ystyried sut y gallwn gynyddu'n heffaith ar lwyfan y byd trwy weithio gyda chyrff diwylliannol ac eraill, hynny am fod 'llawer o bennau'n well nag un'. Yr amcan fydd gwneud yn fawr o gyfleoedd rhyngwladol a sbarduno'u heffeithiau economaidd.

 

Goblygiadau Ariannol: mae cyllidebau eisoes ar gael ar gyfer elfennau o'r gweithgarwch hwn, er enghraifft cymorth ariannol i gyrff diwylliannol gymryd rhan mewn teithiau masnach, ac arian i helpu i roi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gydweithio diwylliannol rhwng Cymru a Tsieina ar waith. Mae ystod o gyngor di-dâl ar gael hefyd gan gyrff fel Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, y Cyngor Prydeinig, Cynghorau Busnes tramor a thîm Masnach Ryngwladol Llywodraeth Cymru. Os bydd angen unrhyw arian pellach i roi'r cynllun gweithredu ar waith, ystyrir hynny fel rhan o rownd cyllideb 2019/20.

 

 

Argymhelliad 8

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnig ffynhonnell o arbenigedd codi arian i helpu sefydliadau celfyddydol bach i gynyddu eu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus mewn ffordd sy’n cyfateb i’r cymorth y mae’n ei gynnig ar hyn o bryd i fusnesau bach drwy Busnes Cymru.

 

Ymateb:  Derbyn yr egwyddor. Fel ag y mae'r argymhelliad hwn yn ei gydnabod, mae Llywodraeth Cymru'n cynnig ystod o wasanaethau cynghori generig trwy Busnes Cymru, ac ategir hynny â help mwy penodol ar gyfer busnesau cymdeithasol trwy ein contract â Chanolfan Gydweithredol Cymru ('Busnes Cymdeithasol Cymru'). Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u teilwra i helpu busnesau bach a chanolig, felly maen nhw ar gael ac yn berthnasol i sefydliadau celf llai. Gall Busnes Cymru / Busnes Cymdeithasol Cymru helpu sefydliadau celf bach i gynyddu'r incwm y maen nhw eu hunain yn gallu ei gynhyrchu, er enghraifft trwy farchnata i werthu mwy o docynnau ac eitemau adwerthu eraill a gwneud y gorau o'u Heiddo Deallusol.

 

Mae sgiliau codi arian eraill yn fwy arbenigol, fel annog pobl i roi mwy, boed trwy elusengarwch, ewyllysiau, cynlluniau 'cyfeillion' a chyllido torfol. Yn hyn o beth, y prif ffynonellau cymorth ar gyfer sefydliadau celf bach yw rhaglen hyfforddi Celfyddydau a Busnes Cymru, y fenter Interniaethau Creadigol a noddir gan Gyngor y Celfyddydau a rhaglen Gwytnwch Cyngor y Celfyddydau. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod derbyniad gwresog i'r rhaglenni hyn, eu bod yn mynd i'r afael â'r diffyg sgiliau codi arian a'u bod yn helpu cyrff llai i feithrin eu harbenigedd.

 

Rwy'n cydnabod er hynny ei bod yn anos i sefydliad celf bach fforddio cyflogi codwr arian penodol, ac i ddenu noddwyr. Felly, byddaf yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau ystyried o blaid estyn ei raglen Gwytnwch i gyrff nad yw'n rhoi arian craidd iddyn nhw (mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn fach) ac i annog Celfyddydau a Busnes hyrwyddo opsiynau sy'n rhoi cyfle i gyrff llai rannu gwasanaethau ac arbenigedd codwr arian proffesiynol.

Goblygiadau Ariannol:  Dim. Daw unrhyw gostau ychwanegol o gyllidebau rhaglenni presennol.

 

 

Argymhelliad 9

Mae'r Pwyllgor yn argymell, o ystyried y sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu sefydliadau celfyddydol yng Nghymru – ac yn amodol ar asesiad effaith o’r gwaith a wnaed hyd yn hyn – y dylai’r Cyngor Celfyddydau ystyried a ellir ehangu’r Rhaglen Gwytnwch i helpu i wella gwytnwch ariannol sefydliadau nad ydynt yn cael eu hariannu gan arian refeniw.


Ymateb:  Argymhelliad i Gyngor y Celfyddydau yw hwn, felly mater iddyn nhw yw ymateb iddo. Ond fel y dywedais yn fy ymateb i argymhelliad 8, byddaf yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau ystyried cefnogi'r cynnig hwn.



Argymhelliad 10

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru amlinellu eu nodau’n glir ar gyfer Cymru Greadigol, ynghyd ag amserlen ar gyfer ei sefydlu, a dangos sut bydd y corff newydd yn helpu sefydliadau celfyddydol i gynyddu eu hincwm nad yw’n gyhoeddus.

 

Ymateb:  Derbyn yr egwyddor. Mae'r trafodaethau manwl ar ffurf a chylch gwaith terfynol Cymru Greadigol yn mynd rhagddynt. Bydd Llywodraeth Cymru'n crisialu'r materion hyn cyn gynted ag y bydd modd.

 

Goblygiadau Ariannol: Bydd costau ynghlwm wrth sefydlu Cymru Greadigol a byddwn yn eu disgrifio'n llawn yn y Cynllun Busnes cyntaf.



 

yr Arglwydd Elis-Thomas AC

Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon